Grŵp Undebau Cyfiawnder Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyntaf y grŵp, a gynhaliwyd yn y Senedd ar 6 Mai 2014

 

Yn bresennol:Julie Morgan AC, Julie James AC, Mike Hedges AC, Joyce Watson AC, David Rees AC, Mick Antoniw AC, Leanne Wood AC, Bethan Jenkins AC, Jenny Rathbone AC, Rhodri Glyn Thomas AC, Aled Roberts AC, Sian Mile (staff cymorth yr Aelodau), Neil Woollard (staff cymorth yr Aelodau), Anne Smyth (staff cymorth yr Aelodau), Helen Cunningham (staff cymorth yr Aelodau), Tracey Worth (Napo), Rob Thomas (Napo), Tom Rendon (Napo), Jane Foulner (Napo), Jo Stevens (cwmni cyfreithwyr Thompsons) a Glyn Jones (Unsain)

 

1.           Croeso

 

Agorodd Julie Morgan AC (Gogledd Caerdydd) y cyfarfod drwy groesawu pawb i'r Grŵp Cyfiawnder, sydd newydd gael ei lansio. Gofynnodd Julie i bob aelod gyflwyno ei hun. Gofynnodd Tracey Worth am enwebiadau ar gyfer rôl y Cadeirydd. Enwebodd Mike Hedges Julie Morgan fel Cadeirydd. Enwebodd Julie Morgan Tracey Worth fel Ysgrifennydd y Grŵp. Yna, cyflwynodd Julie, Tom Rendon, Cadeirydd cenedlaethol Napo.

 

2.           Siaradwr-Tom Rendon

 

Rhoddodd Tom Rendon y newyddion diweddaraf i'r grŵp am y broses o breifateiddio'r Gwasanaeth Prawf (yr agenda gweddnewid adsefydlu). Canolbwyntiodd yn benodol ar Gymru, yr ymgeiswyr a natur wledig ardaloedd. Amlinellodd y pryderon sy'n bodoli mewn perthynas â'r mecanwaith talu yn ôl canlyniadau (PbR), a materion sy'n ymwneud â chwmnïau preifat sydd â phrofiad cyfyngedig o weithio o fewn y system cyfiawnder troseddol ond sy'n cael contractau enfawr gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Nododd Tom na fu unrhyw gynllun peilot yn y cyd-destun hwn a nododd nad yw'r gwasanaeth prawf yn gweithio mewn perthynas â throseddwyr sy'n cael eu dedfrydu i lai na 12 mis yn y ddalfa.

 

Gofynnodd Mike Hedges gwestiwn am y contractau. Yn benodol, gofynnodd am yr hyn a fyddai'n digwydd pe bai'r cwmni preifat sy'n olynu'r cwmni adsefydlu cymunedol (CRC) yn penderfynu ymhen tair blynedd ei fod am dynnu yn ôl gan nad yw'n gwneud digon o elw. Eglurodd Tom Rendon bod y cwestiwn hwn wedi cael ei ofyn i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yng nghyfarfod diweddar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Yr ymateb cychwynnol oedd y gallai cwmni arall gymryd rheolaeth dros y CRC. Fodd bynnag, yn dilyn rhagor o holi, dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder na allai ddarparu rhagor o fanylion oherwydd bod y wybodaeth yn 'fasnachol sensitif'. Lleisiodd Mike Hedges bryder ynghylch y posibilrwydd y gallai'r CRC ofyn am ragor o arian cyhoeddus.

 

Dywedodd Leanne Wood, fel cyn swyddog prawf, ei fod yn dorcalonnus gweld y Gwasanaeth Prawf yn cael ei dinistrio. Soniodd Leanne fod yna bosibilrwydd gwirioneddol y byddai'r Gwasanaeth Prawf yn cael ei ddatganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a gofynnodd i Napo ddarparu sesiynau briffio seneddol a sicrhau bod y gweithgarwch hwn yn canolbwyntio ar y Cynulliad.  Cyfeiriodd Glyn Davies (Unsain) at adroddiad Silk ac awgrymodd y dylai'r Aelodau Cynulliad ysgrifennu at ddarpar ymgeiswyr i ddweud wrthynt nad oes croeso iddynt yng Nghymru. 

 

 

 

 

 

Gofynnodd Jenny Rathbone am yr hyn a fyddai'n digwydd rhwng 1 Mehefin, pan fydd yr ymddiriedolaethau'n cael eu diddymu, a'r cam o werthu cyfranddaliadau yn y pen draw? Dywedodd Tom Rendon wrth y grŵp am y broses o drosglwyddo staff, a fydd yn cael ei gweithredu erbyn 1 Mehefin.  Eglurodd hefyd fod Napo yn ceisio atal y broses o werthu cyfranddaliadau er mwyn sicrhau eu bod yn aros mewn perchnogaeth gyhoeddus.

 

Gofynnodd Bethan Jenkins AC gwestiwn am y contractau, sef a allai'r Cynulliad fynnu bod camau diogelu penodol yn cael eu rhoi ar waith. Siaradodd Tom Rendon am hanes y Weinyddiaeth Gyfiawnder o ran rheoli contractau hyd yma. Nid yw wedi bod yn llwyddiannus iawn, meddai, gan nodi hanes G4S yn cynnal y contract tagio a chwmni Capita yn darparu cyfieithwyr.

 

Cytunwyd y byddai Tracey Worth yn dosbarthu papur briffio Napo i bob Aelod Cynulliad.

 

3.           Cyfarfodydd y dyfodol

 

Gofynnodd Julie Morgan am bynciau i'w trafod yn y dyfodol. Awgrymwyd yr eitemau a ganlyn:

 

 

Dywedodd Aled Roberts wrth y Grŵp fod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda'r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr yng ngogledd Cymru mewn perthynas â charchar newydd Titan. Roedd Aelodau'r Cynulliad yn teimlo y byddai cyfarfodydd o'r fath yn fuddiol yn ne Cymru hefyd.

 

Cytunwyd y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn gynnar ym mis Hydref 2014.

 

4.           Camau i'w cymryd

 

·         Llywodraeth Cymru i ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ofyn pa brofiad sydd gan gwmnïau fel MTCAmey/Working Links yn y system cyfiawnder troseddol.

·         Holi'r comisiynwyr heddlu a throseddu am effaith yr agenda gweddnewid adsefydlu a'r cam o gyflwyno CRCs ar y berthynas waith dda sy'n bodoli rhwng y Gwasanaeth Prawf a'r heddlu, er enghraifft mewn perthynas â rheoli troseddwyr integredig.

·         Holi pam fod y Llywodraeth yn bwrw ymlaen gyda'r broses o breifateiddio'r Gwasanaeth Prawf yng Nghymru yn dilyn adroddiad Silk, sy'n cyfeirio at ddatganoli'r Gwasanaeth Prawf i Lywodraeth Cymru a'i gadw, felly, yn y sector cyhoeddus.

·         Gofyn i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a yw rhaniad y llwyth achosion rhwng y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a'r cwmni adsefydlu cymunedol yn gweithio'n dda yng Nghymru.

·         Gofyn i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder am yr hyn a fyddai'n digwydd os bydd contract CRC yn methu. Pa gamau diogelu sydd ar waith i sicrhau diogelwch y cyhoedd? Sut y bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gwybod bod contract yn methu? Beth fydd y goblygiadau?

·         Y Cynulliad Cenedlaethol i ofyn i Ymddiriedolaeth Prawf Cymru sut y mae'n bwriadu llenwi'r swyddi gwag sy'n bodoli ar hyn o bryd ar gyfer swyddogion prawf, ac i godi pryderon ynghylch y bylchau sy'n bodoli mewn ardaloedd gwledig, er enghraifft Aberystwyth.

Paratowyd y cofnodion gan Tracey Worth, Napo Cymru.

 

12-05-14